Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 17 Mehefin 2019
Amser:
13.16 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5457
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Vikki Howells AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Giles Thorley, Banc Datblygu Cymru Rhian Elston, Banc Datblygu Cymru Mike Owen, Banc Datblygu Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher Rachel Davies |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Giles Thorley, Prif Weithredwr, Mike Owen, Cyfarwyddwr Buddsoddi Grŵp, a Rhian Elston, Cyfarwyddwr Buddsoddi Banc Datblygu Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnes .
2.2 Cytunodd Giles Thorley i anfon manylion am nifer yr unedau tai a adeiladwyd hyd yn hyn o ganlyniad i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru.
3.1 Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Ben Cottam, Pennaeth Materion Allanol Ffederasiwn Busnesau Bach, a John Hurst o B2B IT Services, aelod o Ffederasiwn Busnesau Bach, fel rhan o'r ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnes.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ei adroddiad ar Drefniadau Atal Twyll yn y Sector Cyhoeddus cyn digwyddiad y Pwyllgor ar 1 Gorffennaf.